Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Bangor a’r ardal

Ym Mangor...

Mae rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau eisoes wedi arwain at neuaddau preswyl newydd i fyfyrwyr a chlwb nos newydd Undeb y Myfyrwyr a chyfleusterau academaidd megis y Ganolfan Rheolaeth ac adeilad Canolfan yr Amgylchedd Cymru. Mae Canolfan Celfyddydau ac Arloesi uchelgeisiol yn y broses o gael ei hadeiladu. Bydd yn darparu cyfleusterau celfyddydau ac adloniant cyffrous i’r Brifysgol a’r gymuned leol.

Canolfan Chwaraeon

Mae Canolfan Brailsford, sef canolfan chwaraeon y Brifysgol wedi cael ei ail-ddatblygu ac mae’n cynnwys campfa deulawr, neuaddau chwaraeon, wal ddringo, cyrtiau sboncen a cromen chwaraeon newydd sbon sy’n gartref i gyrtiau pêl-rwyd a thenis dan do.

Canolfan Pontio

Bydd Canolfan Pontio yn sefydliad o fri byd-eang ym maes arloesi mewn gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau creadigol.Yn ogystal â bod yn gartref newydd i Undeb y Myfyrwyr, bydd yn cynnwys theatr, theatr stiwdio, sinema, ystafelloedd darlithio, mannau cynnal arddangosfeydd, bar a chaffi.

Llety newydd – Safle Santes Fair

Bydd datblygiad newydd o 600 o ystafelloedd yn agor ar safle Santes Fair yn 2015, gydag amrywiaeth o lety gan gynnwys fflatiau stiwdio a tai tref, bar caffi, siop, golchdy, ystafelloedd cyffredin a chwaraeon a chyfleusterau Bydd datblygiad newydd o 600 o ystafelloedd yn agor ar y safle hwn yn 2015, gydag amrywiaeth o lety gan gynnwys fflatiau stiwdio a tai tref, bar caffi, siop, golchdy, ystafelloedd cyffredin a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd.

O amgylch Bangor...

Ynys Môn

Ynys Môn yw un o’r llefydd mwyaf poblogaidd gan ymwelwyr sy’n dod i ogledd Cymru. Gan mai Ynys ydyw, nid oes modd bod yn rhy bell o’r môr ar unrhyw adeg, sy’n fantais gan fod cymaint o draethau bendigedig i’w cael yno. Felly pam na wnewch chi groesi’r bont a mynd i dorheulo efo’ch ffrindiau pan fo’r haul yn gwenu neu os ydych chi’n un am chwaraeon dŵr, ewch i syrffio’r tonnau.

Medrwch godi un bore a phenderfynu mynd i Iwerddon am y dydd, a thrwy Ynys Môn yr ewch chi yno. Mae’r fferi gyflym yn golygu fod rhyfeddodau Dulyn yn llai na dwy awr i ffwrdd o Gaergybi.

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn baradwys i’r rhai hynny ohonoch sy’n gwerthfawrogi natur ar ei harddaf. Mae’r parc yn 25 milltir o drysor cenedlaethol sy’n cynnwys nifer o atyniadau a llefydd gwych i gael picnic.

Mae Llanberis yn bentref sy’n eistedd yn falch yng nghanol y Parc efo’i golygfeydd bendigedig. Os ydych chi’n barod am sialens pan na wnewch chi ddringo i gopa’r Wyddfa, neu os nad ydych chi’n fodlon ar hynny, mae yna ffordd ddiog o fynd i fyny yno drwy fynd ar drên bach yr Wyddfa.

Site footer