Croeso i'r wefan Cynhadledd Myfyrwyr Ymchwil BFE/RMA 2016
‘Disciplines in Dialogue’: cynhadledd aml-ddisgyblaethol ar gyfer myfyrwyr sy’n ymwneud â phob math o ymchwil i gerddoriaeth
Mae’n bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor groesawu’r Gynhadledd gyntaf ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil, sydd i’w chynnal ar y cyd gan Fforwm Prydain ar gyfer Ethnogerddoreg (BFE) a’r Gymdeithas Gerdd Frenhinol (RMA).
Mae’r gynhadledd yn ymgais i ddangos enghreifftiau o’r holl amrediad o ymchwil gyfredol i gerddoriaeth a wneir gan fyfyrwyr graddedig ym mhedwar bwn y byd. Yn y gynhadledd, dangosir amrywiaeth a chyfoeth y gwaith hwn trwy gyflwyniadau mewn meysydd megis ethnogerddoreg, cerddoreg hanesyddol, ymchwil a pherfformiad â phwyslais ar ymarfer, dadansoddi cerddoriaeth, seicoleg cerddoriaeth, cyfansoddi, astudiaethau cerddoriaeth boblogaidd a mwy.
Mae uchafbwyntiau ar gyfer Cynhadledd Myfyrwyr Ymchwil BFE/RMA yn cynnwys:
- Mwy na 80 o gyfranogwyr gan fyfyrwyr o bob cwr o’r DU ac o weddill y byd.
- Darlith Jerome Roche gan Nanette Nielsen (Prifysgol Oslo): ‘The work of musicology in the age of cultural reproduction’.
- Prif ddarlith BFE gan Keith Howard (SOAS): ‘The future of our musical pasts’.
- Hyfforddiant ymchwil a phanelau datblygu gyrfa ar gyhoeddi, gyrfaoedd y tu allan i’r byd academaidd, gwaith maes, a sesiwn dan arweiniad NAMHE ar faterion mewn addysg uwch, gyda siaradwyr o bob cwr o’r DU.
- Dosbarthiadau meistr piano gyda’r pianydd Sholto Kynoch (sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Lieder Rhydychen).
- Arddangosiad o Gasgliad Peter Crossley-Holland o Offerynnau Cyn-Golumbaidd.
- Cyngherddau am ddim gyda’r nos gydag ElectroacwstigCymru, Okeanos a Sholto Kynoch, yn cynnwys gwaith myfyrwyr cyfansoddi a myfyrwyr perfformio.
- Papurau unigol 10- a 20-munud ar bynciau’n amrywio o opera yn y 19eg ganrif yn New Orleans hyd at ymgyfuniad jazz-roc yn y 1970au, o drosglwyddo cerddoriaeth gorawl De Affrica hyd at ddyfeisiau ystumiol mewn cerddoriaeth electroacwstig, o gitâr Melita hyd at y derbyniad a gafodd Schubert yn Awstria rhwng y rhyfeloedd.
- Gweithdai dan arweiniad Andrew Lewis ar gyfer cyfansoddwyr electroacwstig ac offerynnol, ac ensemble clodfawr Okeanos.
- Datganiadau-ddarlithoedd yn ymestyn dros repertoire yn amrywio o gerddoriaeth gitâr y 18fed ganrif hyd at Xenakis.
- Arddangosiadau o bosteri ar bynciau yn cynnwys cerddoriaeth a hunaniaeth rywiol, yr effaith seicolegol a gaiff amgylcheddau perfformio, a gwaith yr ethnogerddoregydd Peter Crossley-Holland.
- Arddangosfeydd gan gyhoeddwyr academaidd blaenllaw a deunyddiau eraill.
- Derbyniad â diodydd dan nawdd Grŵp Routledge Taylor a Francis.
- Digon o gyfle i fyfyrwyr rwydweithio a chymdeithasu â’u cyfoedion ac uwch academyddion.