Galwad estynedig am gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr
Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2015
Rydym yn estyn y dyddiad cau am gynigion o fyfyrwyr ymchwil presennol neu ddiweddar â diddordeb mewn cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda’r pianydd Sholto Kynoch yn ystod Cynhadledd Myfyrwyr Ymchwil cyntaf BFE/RMA sydd i’w chynnal o 6 tan 8 Ionawr 2016 ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd y dosbarthiadau meistr ar gael i gantorion, pianyddion ac offerynwyr eraill. Mae Kynoch yn aelod o Driawd Piano’r Phoenix, ac mae’n Gyfarwyddwr Artistig ar Ŵyl Lieder Rhydychen. Mae’n arbenigo mewn cerddoriaeth siambr a chyfeilio cantorion.
Gwahoddir myfyrwyr ôl-raddedig â diddordeb i gyflwyno bywgraffiadau byrion (heb fod yn fwy na 50 o eiriau), manylion am y repertoire y maent am ei berfformio, a datganiad heb fod yn fwy na 250 o eiriau, yn manylu ar sut y caent fudd o ddosbarth meistr.
Rhowch hefyd y wybodaeth ganlynol: cyfeiriad post ac e-bost, cysylltiad sefydliadol, ac unrhyw ofynion arbennig. Anfonwch y manylion hyn at rsc2016@bangor.ac.uk erbyn dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2015. Yna, efallai y gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno copïau o’r gerddoriaeth brintiedig cyn y dewisir y darnau yn derfynol.
Cyhoeddir penderfyniadau Pwyllgor y Rhaglen ddydd Llun 7 Rhagfyr 2015. Bydd mwy o wybodaeth ar y gynhadledd (gan gynnwys gwybodaeth ar lety a theithio) ar gael ar http://rsc2016.bangor.ac.uk o 2 Tachwedd ymlaen.