Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Galwad estynedig am gyfansoddiadau

Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2015

Rydym yn estyn y dyddiad cau am gyflwyniadau o gyfansoddiadau ar gyfer Cynhadledd Myfyrwyr Ymchwil cyntaf BFE/RMA sydd i’w chynnal o 6 tan 8 Ionawr 2016 ym Mhrifysgol Bangor. Gwahoddir cyflwyniadau o fyfyrwyr ymchwil presennol a diweddar. Mae dau gategori:

1. Cyfansoddiadau offerynnol ar gyfer Okeanos

Caiff gweithiau eu darllen a’u hymarfer gydag aelodau o Okeanos mewn gweithdy agored. Rhaid i gyfansoddwyr fod yn bresennol yn y gweithdy y mae eu cyfansoddiad i’w chwarae ynddo. Yna, chwaraeir detholiad o’r gweithiau mewn cyngerdd fin nos, ochr yn ochr â repertoire arall, o flaen y cynadleddwyr.

Dylai cyflwyniadau bara am 6 munud ar y mwyaf, a chael eu sgorio ar gyfer un neu fwy o’r offerynnau canlynol:
shakuhachi (khene dyblu)

koto
’cello
obo (yn dyblu ar gyfer oboe d’amore a cor anglais)

Cewch lawrlwytho ffeithlenni ar y shakuhachi, y khene a’r koto o wefan y gynhadledd, sef http://rsc2016.bangor.ac.uk. Am resymau ymarferol, rhaid i gyfansoddwyr ddilyn y cyngor a geir yn y ffeithlenni hyn. Ar ben hynny, rhaid ichi ganiatáu amser ar gyfer newid offerynnau.

Caiff y sielydd a’r oböydd hefyd ddyblu ar yr offerynnau taro canlynol os oes angen: rìn wedi’i thiwnio i G# ac F#; bowlen ganu o wydr wedi’i thiwnio i E; symbalau hynafol wedi’u tiwnio i F; clafiau; drwm môr bach.

Derbynnir sgorau ar bob ffurf (e.e. nodiant confensiynol, graffig, seiliedig ar destun). Nid oes cyfyngiadau o ran arddull. Dylech anfon dogfennau PDF ar wahân neu’r sgôr lawn â rhannau. Lle bo modd, anfonwch y sgôr lawn hefyd fel ffeil Sibelius neu Finale.

Caiff cyflwyniadau eu beirniadu’n bennaf ar sail esthetig (gwreiddioldeb, cerddoroldeb, medr technegol), ond mae gan y panel hawl i roi ystyriaeth hefyd i faterion cysylltiedig ag ymarferoldeb.

Gyda phob cyfansoddiad a gyflwynwch, cynhwyswch dudalen unigol mewn PDF neu Microsoft Word yn rhoi’r wybodaeth ganlynol: enw, cyfeiriad post ac e-bost, cysylltiad sefydliadol, bywgraffiad byr heb fod yn fwy na 50 o eiriau, enw’r gwaith, offeryniaeth, amcangyfrif ynglŷn â’i hyd, a chategori (h.y. Okeanos). Anfonwch yr holl ddeunyddiau perthnasol i rsc2016@bangor.ac.uk erbyn dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2015.

2. Cyfansoddiadau acwsmatig ar gyfer ElectroacwstigCymru

Caiff gweithiau eu chwarae a’u trafod mewn gweithdy agored. Rhaid i gyfansoddwyr fod yn bresennol yn y gweithdy y mae eu cyfansoddiad i’w chwarae ynddo. Yna, chwaraeir detholiad o’r gweithiau mewn cyngerdd fin nos, ochr yn ochr â repertoire arall, o flaen y cynadleddwyr.

Dylai cyflwyniadau bara am 12 munud ar y mwyaf, a bod yn y fformat canlynol:
fformat .WAV neu .AIFF
cyfradd samplo 44.1 neu 48kHz
16 neu 24 did
fformat sianeli rhyngddalennog yn unig
rhwng 2 o 32 o sianeli

Caiff cyflwyniadau eu beirniadu’n bennaf ar sail esthetig (gwreiddioldeb, cerddoroldeb, medr technegol), ond mae gan y panel hawl i roi ystyriaeth hefyd i faterion cysylltiedig ag ymarferoldeb. Dylech uwchlwytho’r gwaith fel ffeil .ZIP unigol, i weinydd hygyrch neu wasanaeth cwmwl (e.e. DropBox neu Google Drive), y gall y panel ei lawrlwytho heb dalu na chofrestru. Cynhwyswch hefyd un dudalen mewn PDF neu Word, yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: enw, cyfeiriad post ac e-bost, cysylltiad sefydliadol, bywgraffiad byr heb fod yn fwy na 50 o eiriau, enw’r gwaith, hyd, fformat (nifer y sianeli, ayyb), a chategori (h.y. ‘ElectroacwstigCymru’). Anfonwch y ddogfen hon, ynghyd â’r gwe-gyswllt URL y gellir lawrlwytho’r gwaith ohono, at rsc2016@bangor.ac.uk erbyn dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2015.

Cyhoeddir penderfyniadau Pwyllgor y Rhaglen ddydd Llun 7 Rhagfyr 2015. Bydd mwy o wybodaeth ar y gynhadledd (gan gynnwys gwybodaeth ar lety a theithio) ar gael ar http://rsc2016.bangor.ac.uk o 2 Tachwedd ymlaen.

Site footer